Rydym yn paratoi ein cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu ar gyfer Cysylltiad Vyrnwy Frankton
Diolch i bawb sydd wedi ymgysylltu â’r prosiect ers ein ymgynghoriad cychwynnol yn 2023. Mae’r adborth a’r wybodaeth leol a gawsom wedi helpu i ddatblygu ein cynigion.
Ar ôl cwblhau’r Ymgynghoriad Statudol wedi’i Dargedu, rydym bellach yn paratoi ein cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu (DCO) i’w gyflwyno.
Gallwch darganfod mwy am y proses cynllunio a’r camau nesaf ar ein tudalen Camau nesaf.
Rydym yn cynnig cysylltiad 132 kV newydd i gysylltu parciau ynni yn y Canolbarth â’r rhwydwaith trydan cenedlaethol.
Mae cysylltiad Vyrnwy Frankton yn cynnwys is-orsaf newydd ger Cefn Coch ym Mhowys, darn tua 4.8km o gebl tanddaearol a chompownd pen selio, a llinell uwchben tua 45km a gorsaf newid i gysylltu â'r rhwydwaith trydan cenedlaethol ger Lower Frankton, Swydd Amwythig.
Mae angen y cysylltiad newydd hwn i ychwanegu capasiti at y rhwydwaith lleol, gan ddarparu’r seilwaith angenrheidiol i gysylltu ynni adnewyddadwy â chartrefi a busnesau. Gallai hefyd helpu i gefnogi’r gwaith o gyflwyno systemau gwresogi trydan a cherbydau trydan, gan helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Dylanwadwyd ar ddyluniad y cysylltiad gan adborth i’n hymgynghoriad cyntaf yn 2023 gan gymunedau lleol a rhanddeiliaid, mewnbwn gan ymgyngoreion arbenigol, asesiad amgylcheddol a gofynion technegol.
Aliniad y llwybr
Datgloi ein potensial ynni
Eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf?
Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os hoffech gael gwybod am ein prosiect.
Cofrestrwch yma