Ein hoffer ac adeiladu

Peilonau rydyn ni'n eu defnyddio
Mae’r peilonau yn yr aliniad yn cynnig uchder cyfartalog o 28.5 metr. Dyma’r peilonau delltwaith lleiaf sydd ar gael i ni i drosglwyddo'r cyfanswm pŵer sy’n cael ei gynhyrchu. Mae’r aliniad presennol yn cynnwys o ddeutu 171 o beilonau ac ar gyfartaledd 280m rhyngddynt.
Prif nodweddion peilonau delltwaith:
- Technoleg sydd wedi’i phrofi, sydd i’w gweld mewn cymunedau ledled y DU
- Wedi’u dylunio i fod yn dryloyw, gan helpu i leihau effeithiau gweledol
- Addas ar gyfer tirweddau tonnog caeedig, gan y byddai’r bryniau’n gweithredu fel cefndir, gyda llai o’r peilon yn cael ei weld uwchben y nenlinell
- Gallu gwrthsefyll amodau tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryf a rhew yn ffurfio ar y dargludyddion
- Maent yn bodoli mewn gorlifdiroedd ledled y wlad a byddwn yn sicrhau ein bod yn defnyddio dulliau adeiladu priodol yn yr ardaloedd sensitif hyn

Wrth ystyried yr amgylchedd lleol, fel y dirwedd, topograffeg a choetir, a’r gofynion polisi ar gyfer llinellau uwchben, credwn bod peilonau uchder is yn cynnig y datrysiad mwyaf priodol.
Ynghyd â llwybro gofalus, mae peilonau L7 byrrach yn cynnig y cyfle i gadw effeithiau gweledol mor isel ag y gallwn – rhywbeth y dywedodd pobl wrthym oedd yn bwysig. Byddai coed a nodweddion tirwedd eraill hefyd yn cynnig mwy o sgrinio gyda strwythurau uchder is.
Ar ôl asesu’r holl dechnolegau gan gynnwys polion pren a thanddaearu – aredig ffosydd agored a cheblau, rydym wedi dod i’r casgliad mai defnyddio peilonau yw’r ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon o atgyfnerthu’r rhwydwaith grid lleol a chysylltu ynni adnewyddadwy â’n cartrefi, ysbytai, ysgolion, busnesau a chymunedau.

Adeiladu’r cysylltiad
Byddai’r rhan fwyaf o’r offer y byddai ei angen arnom, gan gynnwys y cydrannau ar gyfer y cysylltiad, craeniau i adeiladu’r cysylltiad, a’r holl ddeunyddiau ar gyfer gwaith dros dro (fel compownd gwaith a ffyrdd mynediad), yn cael eu cludo ar lorïau confensiynol. Byddem hefyd angen faniau a cheir i fynd â gweithwyr yn ôl ac ymlaen i'r safle ac yn rhagweld y bydd angen rhai cerbydau mwy i gario offer.
Bydd yn cymryd tua dwy flynedd i adeiladu a phrofi’r cysylltiad, gydag amser ychwanegol i adfer y tir a’i adfer i’w ddefnydd blaenorol. Ar unrhyw un adeg, mae'n debygol y bydd nifer o adrannau gweithio ar hyd y llwybr.
Mae ein gwaith fel arfer yn digwydd fesul cam. Byddai pob elfen o’r prosiect yn cael ei hadeiladu yn dilyn pedwar prif gam.
Fel arfer, byddem yn gwneud y canlynol:
- Sefydlu safleoedd adeiladu, drwy lefelu’r tir a gosod compowndau gwaith a ffyrdd mynediad o nifer o ffyrdd cyhoeddus
- Adeiladu’r cysylltiad
- Profi’r holl offer gan sicrhau ei fod wedi’i adeiladu’n gywir cyn ei wneud yn fyw ar foltedd uchel
- Clirio ac ailosod y tir, a cheisio plannu planhigion ychwanegol i sgrinio offer lle bo angen
Ffiniau'r prosiect
Pan fyddwn yn cyflwyno ein cais am ganiatâd, bydd angen i ni gynnwys yr holl dir sydd ei angen arnom.
Bydd hyn yn cynnwys seilwaith parhaol, fel peilonau. Bydd hefyd yn cynnwys gwaith dros dro fel ffyrdd mynediad, compowndau gwaith a safleoedd adeiladu o amgylch ein seilwaith. Mae hyn yn golygu na fydd gan yr holl dir sydd wedi’i gynnwys yn ein ceisiadau seilwaith parhaol arno.

Is-orsaf
Swyddogaeth yr is-orsaf yw ‘casglu’ pŵer o’r parciau ynni arfaethedig, ac yna trawsnewid y foltedd sydd ei angen ar gyfer trawsyrru. Byddai’r is-orsaf hefyd yn cynnwys cyfnewidydd trydanol ar ddwy ochr y newidyddion, sy’n ein galluogi i gynnal a chadw a gweithredu’r offer yn ddiogel ac yn ddibynadwy.
Compownd pen selio cebl
Bydd compownd pen selio cebl Cors y Garreg (CESC) yn cynnwys ardal o tua 80m x 50m, ac yn cynnwys offer foltedd uchel sydd wedi’i ddylunio i hwyluso’r broses o bontio rhwng ceblau o dan y ddaear a dargludyddion uwchben.
Gorsaf Gyfnewid
Gorsaf gyfnewid ger Lower Frankton, Swydd Amwythig sy'n caniatáu i'r pŵer gael ei ynysu oddi wrth is-orsaf newydd arfaethedig sy'n cael ei datblygu gan y Grid Cenedlaethol i gysylltu â'r system trawsyrru trydan genedlaethol 400kV bresennol.
Mae eich dyfodol craffach, adnewyddadwy yn dechrau heddiw.
Eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf?
Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os hoffech gael gwybod am ein prosiect.
Cofrestrwch ymaRhowch eich adborth
Gallwch ymateb i’r ymgynghoriad ar-lein. Anfonwch eich sylwadau neu adborth atom gan ddefnyddio'r ffurflen adborth yma.
Rhowch eich adborth