Y Prosiect

Rydym yn gweithio i ddatblygu rhwydwaith trydan cryfach a mwy gwydn – gan ddosbarthu ynni glân a gwyrdd i gartrefi, ysbytai, ysgolion, busnesau a chymunedau.
Mae parciau ynni newydd yn cael eu cynnig yn y Canolbarth, ond nid oes gan y rhwydwaith trydan presennol ym Mhowys a Swydd Amwythig y capasiti i’w cysylltu.
Gallai’r cysylltiad newydd ddod yn rhan o rwydwaith mwy gwydn ar gyfer y rhanbarth – gan greu capasiti i gefnogi buddsoddiad lleol a darparu ar gyfer dyfodol lle byddwn i gyd yn defnyddio mwy o drydan. Mae ganddo’r potensial i greu sgiliau a swyddi newydd, yn genedlaethol ac yn lleol. A bydd yn cefnogi mabwysiadu technolegau carbon isel yn ein cartrefi a'n busnesau, megis gwresogi trydan a phwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau domestig ac amaethyddol.

Mae heriau newid yn yr hinsawdd yn cael eu cydnabod yn helaeth gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth San Steffan, a’r awdurdodau lleol ym Mhowys a Swydd Amwythig. Mae’r ddau gyngor wedi adrodd bod effeithiau newid yn yr hinsawdd eisoes yn cael eu gweld yn y siroedd.
Mae angen i bob un ohonom ni weithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. O’r llywodraeth, yr awdurdodau lleol, y cymunedau a’r buddsoddwyr a fydd yn darparu’r seilwaith a’r gwasanaethau i leihau allyriadau.
Ar yr un pryd, bydd y galw am drydan yn cynyddu’n sylweddol wrth i’r genedl ddefnyddio trydan ar gyfer prosesau diwydiannol, i wresogi cartrefi ac adeiladau, ac i wefru cerbydau domestig a masnachol. Mae angen ynni adnewyddadwy arnom yn gyflym ac yn effeithlon i ateb y galw hwn.
Eto i gyd, un o’r rhwystrau i gysylltu ynni adnewyddadwy newydd yw diffyg seilwaith grid addas. Er mwyn brwydro yn erbyn yr argyfwng hinsawdd, mae angen inni gysylltu ynni glân yn gyflym ac yn effeithlon.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i sicrhau bod yr hyn sy’n cyfateb i 100% o’r galw am drydan yng Nghymru yn dod o ffynonellau ynni adnewyddadwy erbyn 2035. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddyblu capasiti gwynt ar y tir erbyn 2030.
Os na fyddwn yn uwchraddio’r rhwydwaith trydan yn gyflym, rydym mewn perygl o golli targedau adnewyddadwy a methu â mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Mae eich dyfodol craffach, adnewyddadwy yn dechrau heddiw.
Eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf?
Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os hoffech gael gwybod am ein prosiect.
Cofrestrwch ymaRhowch eich adborth
Gallwch ymateb i’r ymgynghoriad ar-lein. Anfonwch eich sylwadau neu adborth atom gan ddefnyddio'r ffurflen adborth yma.
Rhowch eich adborth