Mae ymgynghoriad Vyrnwy Frankton nawr ar agor
Mae Green GEN Cymru yn gweithio i ddatblygu rhwydwaith trydan cryfach a mwy gwydn – gan ddosbarthu ynni glân a gwyrdd i gartrefi, ysbytai, ysgolion, busnesau a chymunedau.

Rydym yn cynnig cysylltiad 132 kV newydd i gysylltu parciau ynni yn y Canolbarth â’r rhwydwaith trydan cenedlaethol.
Mae cysylltiad Vyrnwy Frankton yn cynnwys is-orsaf newydd ger Cefn Coch ym Mhowys, darn tua 4.8km o gebl tanddaearol a chompownd pen selio, a llinell uwchben tua 45km a gorsaf newid i gysylltu â'r rhwydwaith trydan cenedlaethol ger Lower Frankton, Swydd Amwythig.
Mae angen y cysylltiad newydd hwn i ychwanegu capasiti at y rhwydwaith lleol, gan ddarparu’r seilwaith angenrheidiol i gysylltu ynni adnewyddadwy â chartrefi a busnesau. Gallai hefyd helpu i gefnogi’r gwaith o gyflwyno systemau gwresogi trydan a cherbydau trydan, gan helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Dylanwadwyd ar ddyluniad y cysylltiad gan adborth i’n hymgynghoriad cyntaf yn 2023 gan gymunedau lleol a rhanddeiliaid, mewnbwn gan ymgyngoreion arbenigol, asesiad amgylcheddol a gofynion technegol.
Aliniad y llwybr
Edrychwch ar ein map rhyngweithiol.

Rhowch eich adborth
Gallwch ymateb i’r ymgynghoriad ar-lein. Anfonwch eich sylwadau neu adborth atom gan ddefnyddio'r ffurflen adborth yma.
Rhowch eich adborthMae eich dyfodol craffach, adnewyddadwy yn dechrau heddiw.
Eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf?
Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os hoffech gael gwybod am ein prosiect.
Cofrestrwch yma