Fri Sep 06 2024

Dyddiad newydd i’n ymgynghoriad statudol

Rydym wedi newid dyddiad yr ymgynghoriad statudol ar gyfer prosiect Vyrnwy Frankton yr oeddem yn bwriadu ei gynnal ym mis Tachwedd 2024 i wanwyn 2025.

Bydd hyn yn caniatáu inni adolygu'n drylwyr ac ymgorffori'r adborth gwerthfawr a gawsom yn ystod ein hymgynghoriad anstatudol gan y cyhoedd a rhanddeiliaid a sylwadau a gawsom dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

Yn dilyn ein hymgynghoriad cyntaf, rydym yn parhau i ystyried yn ofalus yr adborth gwerthfawr ar gyfer y cynnig. Er mwyn cwblhau’r llwybr cysylltu a pharatoi ar gyfer ymgysylltu pwysig â thirfeddianwyr, cymunedau a rhanddeiliaid, byddwn yn symud ein hymgynghoriad statudol i wanwyn 2025.

Bydd yr ymgynghoriad Statudol hwn yn gyfle pellach i bobl roi adborth a helpu i lunio ein cynig cyn i ni wneud cais am ganiatâd datblygu. Rydym yn croesawu ac yn annog eich adborth.

Roeddem am sicrhau bod pobl yn gwybod pryd oedd yr ymgynghoriad wedi'i gynllunio. Byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bawb ac edrychwn ymlaen at rannu ein cynigion diweddaraf yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Yn ôl i newyddion