Fri Sep 06 2024

Ymgynghoriad statudol i agor 19 Chwefror 2025

Bydd ymgynghoriad statudol Cysylltiad Efyrnwy Frankton ar agor rhwng 19 Chwefror a 16 Ebrill 2025.

Ymgynghoriad ar y gweill ar gyfer Prosiect Green GEN Cymru Efyrnwy Frankton

Mae cysylltiad trydan newydd arfaethedig drwy Bowys a Sir Amwythig i gysylltu ynni adnewyddadwy â chartrefi a busnesau ar fin symud i’w gam allweddol nesaf gyda lansio ail ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae Green GEN Cymru yn cynllunio'r cysylltiad 132 kV ar gyfer ffermydd gwynt newydd sydd wedi'u cynllunio i helpu i gyrraedd targedau sero net a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus nesaf yn cael ei gynnal rhwng 19 Chwefror a 16 Ebrill a bydd yn dangos dyluniad manylach ar gyfer y cysylltiad, gan roi syniad i bobl o sut y gallai edrych yn y dirwedd. Mae'r prosiect yn cynnwys is-orsaf newydd yn ucheldiroedd Powys, a chysylltiad newydd trwy Ddyffryn Efyrnwy i Frankton Isaf yn Sir Amwythig lle bydd yn cysylltu â'r rhwydwaith trydan cenedlaethol.

Yn ogystal â dod ag ynni glân i gymunedau, drwy ychwanegu rhagor o gapasiti, mae prosiect Efyrnwy Frankton hefyd yn agor y potensial ar gyfer buddsoddi yn yr ardal, gan gefnogi creu swyddi a dysgu sgiliau. Gallai hefyd helpu'r rhanbarth i baratoi ar gyfer dyfodol pan fyddwn ni i gyd yn defnyddio mwy o drydan, wrth i'r DU leihau'r defnydd o olew a nwy.

Ers yr ymgynghoriad cyntaf yn hydref 2023, mae Green GEN Cymru wedi dadansoddi'r adborth a ddaeth i law gan gymunedau a rhanddeiliaid lleol sydd, ynghyd ag arolygon gofynion amgylcheddol a thechnegol, wedi dylanwadu ar y cynigion diweddaraf.

Bydd dyluniad y cysylltiad yn dal yn agored i awgrymiadau, a bydd cymunedau a rhanddeiliaid yn cael cyfle i roi eu sylwadau pan gaiff yr ymgynghoriad ei lansio. Mae cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus wedi'u trefnu a fydd yn cynnwys model digidol o'r cysylltiad. Bydd amrywiaeth o wybodaeth newydd yn cael ei chyhoeddi a bydd gwefan y prosiect – www.greengenvyrnwyfrankton.com/cy/ – yn cael ei ddiweddaru gan gynnwys map manwl.

Bydd hwn yn ymgynghoriad statudol ac mae'n debygol mai dyma'r ymgynghoriad olaf ar y llwybr cyfan, cyn i Green GEN Cymru wneud cais am gydsyniad cynllunio.

Dywedodd Sean Taylor, rheolwr prosiect, Prosiect Green GEN Cymru Efyrnwy Frankton:

"Mae ymgynghori â'r gymuned yn rhan allweddol o'r ffordd rydyn ni’n datblygu'r prosiect.

"Byddwn ni’n gofyn i bobl ddarparu adborth fel y gallwn ni barhau i edrych ar ffyrdd fel bod cyn lleied o darfu â phosibl. Rydyn ni’n gwybod y gall pobl fod â phryderon am seilwaith newydd felly mae'n bwysig bod pobl yn cymryd rhan os oes ffactorau y maen nhw am i ni eu hystyried.|

"Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu ein cynigion mewn ffordd sy'n ceisio cydbwyso'r effeithiau ar y rhai sy'n byw ac yn gweithio'n agos at ardal ein cynigion, yn ogystal â'r gofynion polisïau a thechnegol y mae'n rhaid i ni eu bodloni hefyd.

Yn ôl i newyddion