Darparu adborth
Gallwch ddylanwadu ar ein cynigion o hyd, a hoffem gael eich adborth er mwyn i ni allu parhau i edrych ar ffyrdd o gadw’r effeithiau mor isel â phosibl. Dywedwch wrthym a oes unrhyw newidiadau y credwch y gallwn eu gwneud i wella ein cynigion neu i leihau’r effeithiau ac, yn bwysicaf oll, pam.
Rydym yn gofyn am sylwadau ar ein holl gynigion, gan gynnwys:
- Is-orsaf gasglu 132 kV newydd ger Cefn Coch, Powys, a elwir yn is-orsaf Grug y Mynydd
- Tua 4.8km o gebl tanddaearol o is-orsaf Grug y Mynydd trwy Barc Ynni Arfaethedig Llyn Lort i gompownd selio pen cebl yng Nghors y Carreg
- Byddai compownd selio pen cebl Cors y Carreg yn galluogi pontio rhwng ceblau tanddaearol a dargludyddion uwchben
- Tua 45km o linell newydd uwchben a gynhelir ar beilonau rhwyllog dur L7(c) (uchder cyfartalog o 28.5m) o gompownd selio pen cebl yng Nghors y Carreg i orsaf gyfnewid newydd
- Gorsaf gyfnewid ger Lower Frankton, Swydd Amwythig sy'n caniatáu i'r pŵer gael ei ynysu o is-orsaf posib newydd sy'n cael ei datblygu gan y Grid Cenedlaethol i gysylltu â'r system drawsyrru trydan cenedlaethol 400kV bresennol
- Tir y bydd ei angen ar gyfer mesurau lliniaru amgylcheddol, iawndal a gwella
Mae sawl ffordd o ddarparu adborth ar y prosiect.
- Ffurflen adborth ar-lein ar ein gwefan: www.greengenvyrnwyfrankton.com/cy
- Copi caled o’r ffurflen adborth, sydd ar gael mewn digwyddiadau ymgynghori neu ar gais
- Anfon neges e-bost i: info@greengenvyrnwyfrankton.com
- Anfon adborth ysgrifenedig i: FREEPOST GREEN GEN CYMRU V2F
Dim ond adborth am gynigion y gallwn ei ystyried, ac nid themâu ehangach fel cynhyrchu ynni na pholisïau'r llywodraeth.
Rhowch adborth am ein cynigion yn unig. Po fwyaf o fanylion y gallwch eu darparu, y gorau y gallwn ddeall effeithiau posibl ein gwaith.
Cyflwynwch eich adborth i ni erbyn 23:59 ddydd Mercher 16 Ebrill 2025.
Mae’n bosib na fydd unrhyw adborth a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael ei ystyried gan ein tîm. Bydd yr holl adborth a gawn yn cael ei adolygu a’i ystyried yn ofalus wrth i ni ddatblygu a chyflwyno ein cynlluniau.
Rhowch eich adborth
Gallwch ymateb i’r ymgynghoriad ar-lein. Anfonwch eich sylwadau neu adborth atom gan ddefnyddio'r ffurflen adborth yma.
Rhowch eich adborthMae eich dyfodol craffach, adnewyddadwy yn dechrau heddiw.
Eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf?
Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os hoffech gael gwybod am ein prosiect.
Cofrestrwch yma