Amdanom ni

Darparu rhwydwaith ynni gwyrdd i Gymru

Rydym yn gweithredu nawr i adeiladu a gweithredu rhwydwaith ynni gwyrdd i Gymru, a fydd yn sicrhau y gall ynni adnewyddadwy 100% lifo i’n cartrefi, ysbytai, ysgolion, busnesau a chymunedau.

Rydym yn chwarae rhan ganolog wrth ddarparu rhwydwaith dosbarthu dibynadwy a chadarn a fydd yn mynd i’r afael â’r argyfwng ynni, yr argyfwng hinsawdd, yn ogystal â’r argyfwng costau byw. Bydd hefyd yn grymuso cymunedau gwledig drwy fuddsoddiad, swyddi, a sgiliau, gan alluogi cymunedau i fyw bywydau trydanol modern.

Bydd ein cynigion uchelgeisiol yn ein gweld yn cynyddu ynni adnewyddadwy yng Nghymru, gan helpu i fynd i’r afael â’r bygythiad mwyaf sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol – yr argyfwng hinsawdd.

Rydym yn rhan o grŵp Bute Energy a byddwn yn cysylltu’r ynni adnewyddadwy a gynhyrchir gan barciau gwynt a solar Bute Energy â’r grid cenedlaethol.

Bydd ein Rhwydwaith Grid Gwyrdd yn cael ei gynllunio i alluogi cysylltu parciau ynni sefydliadau eraill, prosiectau cymunedol a chefnogi gwydnwch ynni. Mae ganddo hefyd y gallu i gefnogi technolegau fel 5G a allai helpu’r rhai y bydd angen mwy o drydan arnynt i dyfu – fel ffermwyr, ysgolion, a busnesau – i fod ar flaen y gad o ran technoleg tra’n gweithio mewn ardal wledig.

Cronfa budd cymunedol

Mae gennym weledigaeth ar gyfer Cymru iachach, gyfoethocach sy’n defnyddio cynhyrchu ynni fel pŵer cadarnhaol i’r byd a chymunedau lleol – ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.

Byddwn yn buddsoddi £800 miliwn dros 40 mlynedd yn y cymunedau sydd agosaf at ein prosiectau drwy ein Cronfa Budd Cymunedol a lywodraethir yn annibynnol. Bydd y gronfa yn agored i gynigion gan sefydliadau a grwpiau sy’n cael effaith gadarnhaol ar y cymunedau sydd agosaf at ein prosiectau.

Bydd y Gronfa Budd Cymunedol yn darparu cyllid i grwpiau, elusennau a gwasanaethau lleol i gynnal ac ehangu eu gwaith, creu prosiectau arloesol newydd a helpu sefydliadau i gyfuno eu harbenigedd, i adeiladu prosiectau etifeddiaeth aml-flwyddyn ar raddfa fawr er budd cymunedau lleol.

Mae ein tîm eisoes yn gweithio gyda chymunedau i ddeall eu dyheadau ar gyfer eu hardal ac i ddeall rhai o'r prif heriau y maent yn eu hwynebu. Bydd yn canolbwyntio ar gefnogi creu cymunedau iachach a chyfoethocach drwy:

  • cefnogi gwelliannau hamdden, iechyd a lles

  • gwella'r ddarpariaeth addysg leol

  • nodi mwy o lwybrau i gyflogaeth i bobl leol

  • amlygu cyfleoedd i ddathlu a hyrwyddo diwylliant, treftadaeth a bioamrywiaeth lleol

Ble hoffech chi i'r arian gael ei fuddsoddi? Beth bynnag yw, yn ystod ein hymgynghoriad cyhoeddus, hoffem glywed eich barn er mwyn deall yn well beth yw’r ffordd orau o wario’r arian hwn.

Animeiddiad o’r prosiect

Gwyliwch ein ffilm prosiect i ddarganfod mwy am y prosiect, a pham ei fod yn hanfodol.

Mae eich dyfodol craffach, adnewyddadwy yn dechrau heddiw.

Eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf?

Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os hoffech gael gwybod am ein prosiect.

Cofrestrwch yma