Amdanom ni

Darparu rhwydwaith ynni gwyrdd i Gymru

Rydym yn gweithredu nawr i adeiladu a gweithredu rhwydwaith ynni gwyrdd i Gymru, a fydd yn sicrhau y gall ynni adnewyddadwy 100% lifo i’n cartrefi, ysbytai, ysgolion, busnesau a chymunedau.

Rydym yn chwarae rhan ganolog wrth ddarparu rhwydwaith dosbarthu dibynadwy a chadarn a fydd yn mynd i’r afael â’r argyfwng ynni, yr argyfwng hinsawdd, yn ogystal â’r argyfwng costau byw. Bydd hefyd yn grymuso cymunedau gwledig drwy fuddsoddiad, swyddi, a sgiliau, gan alluogi cymunedau i fyw bywydau trydanol modern.

Bydd ein cynigion uchelgeisiol yn ein gweld yn cynyddu ynni adnewyddadwy yng Nghymru, gan helpu i fynd i’r afael â’r bygythiad mwyaf sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol – yr argyfwng hinsawdd.

Rydym yn rhan o grŵp Bute Energy a byddwn yn cysylltu’r ynni adnewyddadwy a gynhyrchir gan barciau gwynt a solar Bute Energy â’r grid cenedlaethol.

Bydd ein Rhwydwaith Grid Gwyrdd yn cael ei gynllunio i alluogi cysylltu parciau ynni sefydliadau eraill, prosiectau cymunedol a chefnogi gwydnwch ynni. Mae ganddo hefyd y gallu i gefnogi technolegau fel 5G a allai helpu’r rhai y bydd angen mwy o drydan arnynt i dyfu – fel ffermwyr, ysgolion, a busnesau – i fod ar flaen y gad o ran technoleg tra’n gweithio mewn ardal wledig.

Ein trwydded Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu Annibynnol (IDNO).

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cael trwydded Gweithredwr Rhwydwaith Dosbarthu Annibynnol (IDNO) gan Ofgem.

Mae hwn yn gam pwysig yn ein amcan i ddarparu ynni adnewyddadwy ledled Cymru, gan ddarparu ynni glân, dibynadwy a chynaliadwy i'n cartrefi, ein busnesau a'n cymunedau. Mae trwydded IDNO yn ein galluogi i weithredu rhwydweithiau dosbarthu trydan a fydd yn cefnogi’r galw cynyddol am seilwaith ynni adnewyddadwy.

Animeiddiad o’r prosiect

Gwyliwch ein ffilm prosiect i ddarganfod mwy am y prosiect, a pham ei fod yn hanfodol.

Mae eich dyfodol craffach, adnewyddadwy yn dechrau heddiw.

Eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf?

Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os hoffech gael gwybod am ein prosiect.

Cofrestrwch yma