Camau nesaf
Byddwn nawr yn dechrau paratoi ein cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu (DCO) i’w gyflywno.
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn cymryd y camau canlynol:
- Adolygu adborth a’r gwaith sy’n mynd rhagddo i weld ble y gallwn wella’r cynigion.
- Ystyried sut y gellir rheoli gweithgareddau trafnidiaeth ac adeiladu er mwyn lleihau’r effeithiau ar bobl lleol, busnesau, a gweithgareddau hamdden. Byddai mynediad i eiddo yn cael ei gynnal yn ystod y gwaith adeiladu.
- Cadarnhau graddfa’r gwaith o glirio coed a gwyrchoedd, a nodi sut y caiff yr effeithiau eu rheoli, gan gynnwys gwaith adfer.
- Asesu effaith weledol y cysylltiad a nodi unrhyw fesurau lliniaru ychawanegol sydd eu hangen, megis tirlunio neu blannu.
- Adolygu effiethiau amgylcheddol tebygol y cysylltiad a nodi unrhyw fesurau lliniaru sydd eu hangen.
Unwaith y bydd y cynigion wedi’u cwblhau, byddwn yn paratoi ein cais a’r dogfennau ategol. Bydd hyn yn cynnwys dogfen ymgysylltu sy’n nodi sut rydym wedi ysytried yr adborth, a Datganiad Amgylcheddol sy’n amlinellu’r effeithiau amgylcheddol tebygol o’r cynigion.
Y proses cynllunio
Gan fod y cysylltiad trydan arfaethedig yn fwy na 2 km o hyd ac yn croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, caiff ei ddosbarthu’n Brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol o dan Ddeddf Cynllunio 2008.
Mae prosiect Cysylltiad Vyrnwy Frankton yn mynd rhagddo drwy broses y Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO) ac yn cael ei ddatblygu yn unol â’r gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol perthnasol, gan gynnwys y diwygiadau diweddar a gyflwynwyd gan Ddeddf Cynllunio a Seilwaith 2025.
Rhaid i ddatblygwyr Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol gael DCO cyn gall cynigion cael ei adeiladu. Mae’r broses yn cynnwys ymgynghori, asesiadau amgylcheddol ac archwiliad annibynnol cyn i argymhelliad cael ei gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwaldol, sy’n gwneud y penederfyniad terfynol ar y cais.
Cyn cyflwyno ein cais DCO, rydym wedi cynnal rhaglen o ymgynghori gyda’r cymuned lleol a rhanddeiliad. Ers lansio’r prosiect yn 2023, rydym wedi cwblhau tri rownd o ymgynghori:
- Medi 2023: Ymgynghoriad Anstatudol
- Chwefror 2025: Ymgynghoriad Statudol
- Chwefror 2026: Ymgynghoriad Statudol wedi’i Dargedu
Mae’r adborth a dderbyniwyd trwy gydol y proses ymgynghori wedi helpu i lywio a mireinio cynigion y prosiect. Rydym bellach yn ystyried yr holl ymatebion wrth i ni paratoi ein cais DCO i’w gyflwyno.
Beth sy’n digwydd nesaf
Unwaith y bydd y cynigion wedi’u cwblhau byddwn yn paratoi’r cais a’r dogfennau ategol. Bydd hyn yn cynnwys dogfen ymgysylltu sydd yn esbonio sut rydym wedi ysytyried adborth, a Datganiad Amgylcheddol i esbonio’r effeithiau amgylcheddol tebygol o ein cynigion.
Pan fydd ein cynigion wedi’i gwblhau, byddwn yn gwneud cais ffurfiol am DCO i’r Arolygiaeth Gynllunio.
Mae cyflwyno ein cais yn nodi dechrau o broses adolygu annibynnol sydd fel arfer yn para tua 18 mis. Mae’r fframwaith cynllunio yn sicrhau bod y gymued lleol yn cael cyfleoedd clir i gyflwyno sylwadau i’r cyrff sy’n penderfynu, ochr yn ochr â’n cais:
*Cyflwyno: Ar ôl i ni gyflwyno ein cais am DCO i’r Arolygiaeth Gynllunio (PINS), bydd ganni 28 diwrnod i benderfynu a yw’r cais yn cynnwys digon o fanylion i gael ei dderbyn i’w archwilio. Ar y cam hwn, bydd PINS hefyd yn ceisio barn awdurdodau lleol ynghylch a yw’r ymgynghoriad a gynhaliwyd wedi bodloni’r gofynion cyfreithiol.
*Cyn yr archwiliad: Os caiff y cais ei dderbyn, bydd PINS yn penodi arolygydd annibynnol neu banel o arolygwyr. Dyma yw’r Awdurdo Archwilio. Gall unrhyw un efo diddordeb yn y prosiect gofrestru fel Parti â Buddiant a chymryd rhan yn y broses archwilio.
*Archwiliad: Bydd yr archwiliad yn dechrau’n ffurfiol y diwrnod ar ôl Cyfarfod Rhagarweiniol, lle bydd yr Awdurdod Archwilio yn nodi sut y cynhelir yr archwiliad. Dros y chwe mis dilynol, caiff y cynigion eu harchwilio’n fanwl, a gall Partïon â Buddiant gyflwyno sylwadau ysgrifenedig a, lle bo angen, cymryd rhan mewn gwrandawiadau.
*Penderfyniad: Ar ôl i’r archwiliad cau, bydd gan yr Awdurdod Archwilio tri mis i baratoi adroddiad ac argymhelliad i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Diogelwch Ynni a Sero Net. Yna, bydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dri mis pellach i benederfynu a ddylid rhoi neu wrthod cydsyniad datblygu.
O adeg cyflwyno’r cais, mae’r broses gyfan fel arfer yn para tua 18 mis.
Llinell amser y prosiect
Medi - Ymgynghoriad cyhoeddus cyntaf
Ail ymgynghoriad cyhoeddus
Targeted Statutory Consultation
Cyflwyno ein DCO ar gyfer adolygiad
Y dyddiad cynharaf y byddair cais yn cael ei benderfynu
Gwaith adeiladu'n dechrau os yw'r prosiect yn cael cydsyniad
Cysylltiad Vyrnwy Frankton yn weithredol