Achos Angen

Rydym yn gweithio i ddatblygu rhwydwaith trydan cryfach a mwy gwydn – gan ddosbarthu ynni glân a gwyrdd i gartrefi, ysbytai, ysgolion, busnesau a chymunedau.

Mae parciau ynni newydd yn cael eu cynnig yn y Canolbarth, ond nid oes gan y rhwydwaith trydan presennol ym Mhowys a Swydd Amwythig y capasiti i’w cysylltu.

Gallai’r cysylltiad newydd ddod yn rhan o rwydwaith mwy gwydn ar gyfer y rhanbarth – gan greu capasiti i gefnogi buddsoddiad lleol a darparu ar gyfer dyfodol lle byddwn i gyd yn defnyddio mwy o drydan. Mae ganddo’r potensial i greu sgiliau a swyddi newydd, yn genedlaethol ac yn lleol. A bydd yn cefnogi mabwysiadu technolegau carbon isel yn ein cartrefi a'n busnesau, megis gwresogi trydan a phwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau domestig ac amaethyddol.

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn eang bod angen annibyniaeth ynni ar ein gwlad ar frys, a bod heriau i’w goresgyn o ran newid hinsawdd.

Mae angen i bob un ohonom ni weithredu ar frys i fynd i’r afael â’r heriau hyn. Gan gynnwys y llywodraethau, yr awdurdodau lleol, y cymunedau a’r buddsoddwyr a fydd yn darparu’r seilwaith a’r gwasanaethau i gynhyrchu ynni glân, lleol.

Ar yr un pryd, bydd y galw am drydan yn cynyddu’n sylweddol wrth i’r genedl ddefnyddio trydan ar gyfer prosesau diwydiannol, i wresogi cartrefi ac adeiladau, ac i wefru cerbydau domestig a masnachol.

Ac eto, un o’r rhwystrau sy’n ein hatal rhag cysylltu ynni adnewyddadwy newydd yw diffyg seilwaith grid addas. Er mwyn sicrhau diogelwch ynni a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae angen i ni gysylltu ynni glân yn gyflym ac yn effeithlon.

Datgloi ein potensial ynni

Eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf?

Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os hoffech gael gwybod am ein prosiect.

Cofrestrwch yma