Y Prosiect

Tirfeddianwyr a Thirddeiliaid

Mae Green GEN Cymru wedi ymrwymo i feithrin perthnasoedd gwaith cryf gyda thirfeddianwyr a thirddeiliaid wrth i ni ddatblygu ein cynigion ar gyfer Green GEN Vyrnwy Frankton.

Bydd ein hasiantwyr tir penodedig, WSP, yn ymgysylltu â thirfeddianwyr unigol ar bob mater.

Asesiad cynllunio

Mae’r broses gynllunio yn ei gwneud yn ofynnol i ni gwblhau arolygon amgylcheddol cynhwysfawr i gefnogi’r asesiad o’r effaith amgylcheddol. Mae’r arolygon yn rhan allweddol o’r broses o ddeall effeithiau posibl ein cynigion ac asesu opsiynau i reoli’r effeithiau hyn.

Mae’r asesiadau’n ofyniad ffurfiol ar gyfer unrhyw brosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol, ac mae ein cynigion ar gyfer llinell uwchben 132 kV newydd yn bodloni’r diffiniad hwnnw. Bydd hyn yn ein galluogi i ddatblygu cynnig manwl ar gyfer llwybr y llinell uwchben.

Fel rhan o’r arolygon hyn fel arfer, bydd nifer fach o gontractwyr arbenigol yn mynd i ardaloedd penodol o dir i gynnal amrywiaeth o arolygon archaeolegol, amgylcheddol a pheirianyddol. Mae’n bwysig nodi nad yw cais i gynnal arolygon ar unrhyw ddarn o dir yn golygu y bydd y darn hwnnw o reidrwydd yn rhan o’r llwybr nac y bydd seilwaith yn cael ei osod arno.

Dim ond ar adegau penodol o’r flwyddyn y gellir cynnal rhai arolygon ecolegol ac amgylcheddol oherwydd gweithgarwch bywyd gwyllt.

Rydym am weithio gyda thirfeddianwyr ar ein cynigion i drafod mynediad a defnydd tir. Yr opsiwn rydym yn ei ffafrio bob amser yw cytuno ar fynediad yn wirfoddol, ac rydym yn gwerthfawrogi cydweithrediad tirfeddianwyr sydd wedi cytuno i ni gael mynediad i’w tir ar gyfer yr asesiadau hyn.

Nid yw cytuno i’r arolwg yn cyfyngu ar allu’r tirfeddiannwr i ymateb i ymgynghoriad y prosiect.

Cadw mewn cysylltiad

Os ydych chi’n dirfeddiannwr ac eisiau rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy’r dulliau canlynol:

E-bost: landsvyrnwyfrankton@wsp.com
Ffôn: 0161 200 9856

Dogfennau tirfeddianwyr

Taliadau tirfeddianwyr Gwybodaeth am daliadau ar gyfer seilwaith trydan newydd

Taflen Arolygon Amgylcheddol a Pheirianyddol – Cam un yn yr Ymgynghoriad, 2024 - Taflen Arolygon Amgylcheddol a Pheirianyddol Green GEN Cymru

Mae eich dyfodol craffach, adnewyddadwy yn dechrau heddiw.

Eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf?

Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os hoffech gael gwybod am ein prosiect.

Cofrestrwch yma