Pam fod angen y prosiect
Mae newid hinsawdd yn bygwth ein bywoliaeth, ein tirweddau a’n bywyd gwyllt.
Mae heriau newid yn yr hinsawdd yn cael eu cydnabod yn bendant gan Lywodraethau’r DU a Chymru, a’r awdurdodau lleol ym Mhowys a Swydd Amwythig. Mae'r ddau gyngor yn adrodd bod effeithiau newid hinsawdd eisoes i'w gweld yn y siroedd.
Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am gyflymu datblygiad ynni adnewyddadwy fel rhan o gynlluniau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Wrth i ni symud oddi wrth danwydd ffosil, bydd cynhyrchu ynni newydd yn cael ei leoli lle gall ddal ffynonellau cynaliadwy fel gwynt, llanw a solar. Bydd y grid trydan hefyd yn newid fel ei fod yn gallu cysylltu'r ffynonellau newydd hyn.
Yng Nghanolbarth Cymru, cynigir ffermydd gwynt newydd ac nid oes gan y rhwydwaith trydan presennol y gallu i’w cysylltu – er mwyn rhoi terfyn ar ddefnyddio tanwyddau ffosil mae angen seilwaith newydd a chyflym.
Bydd cysylltiad Vyrnwy Frankton Green GEN Cymru yn golygu y gall yr ynni a gynhyrchir gan barciau ynni newydd gael ei ddefnyddio mewn cartrefi a busnesau, yn lleol ac yn genedlaethol.
Gall y seilwaith sydd ei angen arnom i drosglwyddo i economi carbon isel ddod â llawer o fanteision hefyd. Mae ganddo’r potensial i greu sgiliau a swyddi newydd, yn genedlaethol ac yn lleol. A bydd yn cefnogi mabwysiadu technolegau carbon isel yn ein cartrefi a’n busnesau.
Golyga mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd y canlynol:
"Mae gweithredu uchelgeisiol ar newid yn yr hinsawdd yn achub bywydau. Mae newid yn yr hinsawdd yn fater byd-eang sylweddol gydag effeithiau lleol i bawb. Mae Powys eisoes wedi cael profiad o ddigwyddiadau tywydd eithafol gan gynnwys llifogydd a difrod stormydd. Er ein bod eisoes yn profi effeithiau negyddol newid yn yr hinsawdd, gallwn barhau i benderfynu sut olwg sydd ar ein dyfodol. Mae ein gweithredoedd heddiw yn effeithio ar genedlaethau’r presennol a’r dyfodol."
Strategaeth Newid Hinsawdd Cyngor Sir Powys.
"Yn Swydd Amwythig, golyga tueddiadau newid hinsawdd hirdymor hafau poethach, sychach a gaeafau gwlypach a chynnydd mewn digwyddiadau eithafol ar draws y tymhorau, gan gynnwys glaw trwm iawn, oerfel eithafol a thywydd poeth. Disgwylir i eithafiaeth y newidiadau hyn ddibynnu ar lefelau allyriadau nwyon newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol. Po fwyaf a wneir nawr i leihau allyriadau, y llai eithafol fydd yr effaith ddisgwyliedig yn y dyfodo."
Dogfen ar Newid Hinsawdd ar gyfer Cymunedau Cyngor Sir Amwythig.
"Mae pontio i system ynni datgarboneiddio fodern yn seiliedig ar le sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn peri heriau sylweddol, ond mae ganddo’r potensial hefyd i ddod â budd mawr, i’r amgylchedd ac i les economaidd a chymdeithasol ein cymunedau."
Strategaeth Ynni Canolbarth Cymru.
"Wrth i’r argyfwng ynni byd-eang ddyfnhau, cynnydd aruthrol yng nghostau ynni domestig a’r cloc yn tician hyd yn oed yn uwch ynghylch y drychineb hinsawdd, ni fu’r achos dros gyflymu datblygu ynni adnewyddadwy erioed yn gryfach."
Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru, Llywodraeth Cymru.
Mae eich dyfodol craffach, adnewyddadwy yn dechrau heddiw.
Eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf?
Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os hoffech gael gwybod am ein prosiect.
Cofrestrwch yma