Trosolwg o'r ymgynghoriad
Daeth ein hymgynghoriad cyntaf ar gysylltiad Vyrnwy Frankton i ben ddydd Mercher 18 Hydref 2023.
Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ac a roddodd adborth.
Er bod yr ymgynghoriad ar gau, bydd tîm y prosiect yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r gymuned wrth i’r prosiect ddatblygu.
Yn ein hymgynghoriad yn yr hydref, fe wnaethom ofyn am adborth ar y canlynol:
-
y safle arfaethedig ar gyfer yr is-orsaf casglu a’r compownd pennau selio ceblau ym Mhowys
-
y llwybr rydyn ni’n ei ffafrio ar gyfer llinell uwchben drwy Bowys a Swydd Amwythig
Y camau nesaf
Mae'r crynodeb o’r adborth, sy'n manylu ar y themâu allweddol a'r mewnwelediadau a gymerwyd o'r adborth a dderbyniwyd bellach ar gael.
Mae'r adborth ar sylwadau penodol ynghylch y llinellau uwchben a'r penderfyniadau llwybro, yn ogystal â thrafodaethau ehangach ar yr angen am dechnoleg carbon isel, yn cael eu hadolygu'n drylwyr ar hyn o bryd.
Gan adeiladu ar yr adborth a dderbyniwyd, byddwn yn parhau i fireinio llwybr y prosiect. Bydd gwybodaeth fanylach am lwybro a gosod peilonau yn cael ei rhannu yn yr ymgynghoriad nesaf yn ddiweddarach yn 2024.
Mae eich dyfodol craffach, adnewyddadwy yn dechrau heddiw.
Eisiau cael y wybodaeth ddiweddaraf?
Cofrestrwch eich manylion cyswllt gyda ni os hoffech gael gwybod am ein prosiect.
Cofrestrwch yma